Hafan > Newyddion > Rhanbarth Caerfyrddin yn helpu CFFI Sir Gâr


Rhanbarth Caerfyrddin yn helpu CFFI Sir Gâr


Dyma luniau o aelodau Merched y Wawr Rhanbarth Caerfyrddin yn mwynhau helpu ar ddydd Mercher 11eg o Fehefin yn nigwyddiad “Fy Mhlât Bwyd” yn adeilad Y Sioe, Nantyci. Diolch a llongyfarchiadau i CFFI Sir Gâr am drefnu tri diwrnod mor arbennig eto eleni gan roi cyfle i tua 1,000 o blant ysgolion yr ardal i ddysgu am wahanol agweddau o ffermio ac yna ar ôl glanhau’r ffa cael blasu’r cynnyrch lleol megis tatws wedi pobi a bolognese allan o gig eidion.