Hafan > Newyddion > Rhanbarth Caerfyrddin - Fy Mhlât Bwyd


Rhanbarth Caerfyrddin - Fy Mhlât Bwyd


Dyma lun o aelodau Merched Y Wawr Rhanbarth Caerfyrddin yn mwynhau helpu ar ddydd Mercher, 3ydd Gorffennaf yn nigwyddiad “Fy Mhlât Bwyd” yn adeilad y Sioe, Nantyci. Diolch a llongyfarchiadau i CFFI Sir Gâr am drefnu tri diwrnod mor arbennig gan roi cyfle i tua 1000 o blant ysgolion yr ardal i ddysgu am wahanol agweddau o ffermio ac wedyn i goginio a blasu’r cynnyrch megis sbageti bolognese allan o gig eidion.