Hafan > Newyddion > Radi Thomas a blodau Rhanbarth Caerfyrddin
Radi Thomas a blodau Rhanbarth Caerfyrddin
Cynhaliodd Rhanbarth Caerfyrddin Cystadlaethau Sioe Llanelwedd 2025 nos Lun 19eg o Fai yn neuadd hyfryd newydd Llanddarog.
Diolch i bawb a wnaeth gystadlu ac i’r beirniaid Catrin Price, Rhian Bowen a Lloyd Henry.
Cyflwynwyd y Darian yn adran y blodau i Lilwen Thomas Cangen San Clêr
Enillwyr yng nghystadleuaeth Cwpan Radi Thomas –
Map – Margaret Williams Cangen Abernant
Basged/bag picnic – Jayne Hughes Cangen Bro Cennech
Ailgylchu/Uwchgylchu - Margaret Williams Cangen Abernant
Paentiad/ffotograff – Iona Morgan Cangen San Clêr
Coginio – Doreen Martin Clwb Gwawr Criw Cothi
Cyflwynwyd Cwpan i Jayne Hughes am yr eitem orau yn y gystadleuaeth
Llongyfarchiadau a phob lwc iddynt oll yn y Sioe Frenhinol Cymru
Yn dilyn y gystadleuaeth mwynhaodd pawb “paned a chacen” ac yna aed ymlaen a’r cyfarfod.