Hafan > Newyddion > Pwyllgor Anabl Rhanbarth Arfon


Pwyllgor Anabl Rhanbarth Arfon


Pwyllgor yr Anabl, Rhanbarth Arfon Yn anffodus mae Pwyllgor yr Anabl, Rhanbarth Arfon wedi dod i ben. Yn flynyddol cynhaliwyd dau ddigwyddiad sef Bore Coffi a Stondinau a sesiwn Distawrwydd Noddedig gan gasglu arian at wahanol achosion da. Bu Meirwen Lloyd yn rhoi trefn ar gofnodion y pwyllgorau a’u rhoi mewn ffeil i’w cadw. Yn y llun mae Val Hughes Griffiths (aelod gweithgar iawn o’r pwyllgor ar hyd y blynyddoedd), Glenda Jones (Llywydd Rhanbarth Arfon) a Meirwen Lloyd.