Hafan > Newyddion > Prosiect y Llywydd Cenedlaethol Jill Lewis
Prosiect y Llywydd Cenedlaethol Jill Lewis
Rydym yn gyffro i gyd - mae gennym gyhoeddiad i wneud am brosiect ein Llywydd Cenedlaethol Jill Lewis...
Cafodd Jill ei geni a’i magu ym Mynachlogddu yn Sir Benfro ac mae Jill yn caru cefn gwlad ac yn hoff iawn o gerdded yn ei milltir sgwar a thu hwnt. Felly mae y prosiect yn seiliedig ar y thema “Cerdded, Cerdd a Chynefin”.
Dywedodd Jill “Gan fod cynifer ohonom wedi cael tipyn o flas ar gerdded dros gyfnod y pandemig ac wedi teimlo ei fod wedi bod o les i’n Iechyd corfforol a meddyliol, - meddyliais y byddai’n braf i barhau a’r cerdded ac i wneud hynny yng nghwmni aelodau Merched y Wawr, darpar aelodau a dysgwyr o fewn pob rhanbarth yng Nghymru.” Bwriad Jill yw ymweld a phob rhanbarth yn ystod y Llywyddiaeth a mynd ‘Am Dro’ a honno yn ‘wac’ hamddenol a rhwydd. Fel y dywed “Y gwmnïaeth fydd yn bwysig a dod i adnabod yr aelodau ar draws Cymru gan fwynhau y golygfeydd a dod i adnabod yr ardal yn well.”
Fel rhan o’r prosiect byddwn yn chwilio am gerddi addas i gyd-fynd a’r daith ac efallai y bydd rhai yn cael yr awen i greu wrth gerdded, does dim rhaid iddo fod yn soned swmpus na chywydd nac englyn, pennill neu ddau cystal a dim! O ran ‘cynefin’ yna braf fyddai nodi enwau’r blodau ac adar o fewn ein cynefinoedd gan anfon llun os yn bosibl neu enw a disgrifiad er mwyn i ni gael eu defnyddio a’u trosglwyddo i eraill.
A dyma air pellach gan Jill am eu chynlluniau “Ar ôl y daith wedyn, braf fydd cael ymuno i gael dished neu baned, neu bicnic, gan estyn croeso i unrhyw aelodau neu gyfeillion na fu’n cerdded i ymuno â ni am sgwrs. Efallai y dylid cynnwys un gair arall – Cerdded, Cerdd, Cynefin – Cacen?” Bydd hyn eto yn fodd o gefnogi ein diwydiant lletygarwch o fewn ein cymunedau ar draws Cymru a gobeithio blasu rhai o ddanteithion y fro. Ein gobaith mawr ydyw y byddwn oll yn dod i adnabod Cymru a’n cynefinoedd yn well”.
Cadwch lygad allan am y dyddiadau o fewn eich ardal – a beth am ymuno ar y daith y gyda’r Llywydd. Neu beth am fynd ati i grwydro eich cynefin gan nodi enwau y planhigion, coed ac adar a’i rhannu ar ein tudalen gweplyfr Cerdded, Cerdd a Chynefin
Neu fe fedrwch anfon unrhyw luniau, cerddi neu wybodaeth am eich teithiau neu’ch cynefin at angharad@merchedywawr.cymru neu ei bostio atom.