Hafan > Newyddion > Prosiect y Llywydd Bethan Picton Davies 2025 - 2027
Prosiect y Llywydd Bethan Picton Davies 2025 - 2027
Prosiect y Llywydd - Bethan Picton-Davies - 2025-2027
Oherwydd amgylchiadau niferus iawn yn fy nheulu rwyf wedi dewis yr elusen “Ymchwil Canser Cymru”, ac yn benodol Canser y Fron. Yn ystod y ddwy flynedd nesaf rwy’n gobeithio gwnewch chi ymuno gyda fi a chefnogi mewn unrhyw ffyrdd y dymunwch, yn aelodau, canghennau, clybiau a rhanbarthau!
Elusen Canser y Fron Cymru - Gobaith, Gofal, a Newid
Mae canser yn effeithio ar bob un ohonom mewn rhyw ffordd - p’un ai’n bersonol neu drwy anwyliaid. Yn anffodus, mae’r ystadegau’n dangos bod “un mewn dau” yng Nghymru’n debygol o gael diagnosis o ganser ryw dro yn eu bywyd. Mae hyn yn realiti trawmatig, ond drwy weithredu gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth enfawr.
Yn ystod fy llywyddiaeth byddaf yn canolbwyntio ar waith hanfodol Elusen Ymchwil Canser Cymru a Canser y Fron, elusen sy’n ymroddedig i godi ymwybyddiaeth, cefnogi ymchwil, a chynnig cymorth uniongyrchol i fenywod ledled y wlad sy’n cael eu heffeithio gan y clefyd.
I wneud fy ymgyrch yn un llwyddiannus dwi’n gofyn yn garedig am eich cymorth a chefnogaeth. Mae gen i sawl gweithgaredd a fydd yn dibynnu ar eich cydweithrediad. Yn ystod y flwyddyn gyntaf o fy llywyddiaeth, gofynnaf i’ch canghennau/clybiau i drefnu gweithgaredd i godi arian. (Plis peidiwch a bancio’r arian yma yn eich cyfrif, bydd angen trosglwyddo’r arian yma fel arian parod i’r Swyddfa yn Aberystwyth). Yn ystod yr ail flwyddyn fe fydd Merched y Wawr yn dathlu’r 60fed, gofynnaf yn garedig i bob rhanbarth trefnu digwyddiad i godi arian. Peidiwch boeni mae gen i restr hir o syniadau a fydd yn gallu fod o gymorth.
Dwi am beintio’r Byd yn Binc….sef lliw Canser y Fron! Dyma le fydd nwyddau newydd ar werth….gan gynnwys ambell ddilledyn pinc!!
Mae cymaint o fenywod ledled Cymru yn wynebu canser y fron bob blwyddyn. Mae’n rhaid i ni wneud mwy na theimlo trugaredd - mae’n rhaid i ni barhau i weithredu. Drwy gefnogi Ymchwil Canser Cymru a Chanser y Fron, rydych chi’n buddsoddi mewn “gobaith, gofal, a gwellhad” i fenywod Cymru.
Mae pob rhodd, pob digwyddiad, a phob eiliad o’ch amser yn cyfrannu’n uniongyrchol at wella bywydau. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau nad yw neb yn wynebu canser a chanser y fron ar eu pen eu hunain.
Dewch i Ni Wneud Gwahaniaeth
Un o lysgenhadon yr elusen - merch sydd yn gyfarwydd i ni gyd, y gyflwynwraig, yr amryddawn Mari Grug.....ond i fi, mae hi’n un o fy nithoedd sbesial ac arbennig iawn.
Prosiect i’r Rhanbarthau:
I gyd fynd gyda’r Prosiect hoffwn gymryd y cyfle yma i ofyn am gydweithrediad pob rhanbarth. Mae’n neis gwneud rhywbeth ‘gwahanol’ ond yw e? Dwi am i chi fy helpu i greu adnodd a fydd yn ddefnyddiol i bobl Cymru gyfan am fwy na chyfnod fy llywyddiaeth.
Gyda chymorth gwasg Carreg Gwalch, dwi am gyhoeddi llyfryn! Ond dim llyfr arferol! Fydd yr adnodd yma yn cynnwys gwybodaeth ddiddorol, addysgol, ac yn llawn ffeithiau amrywiol am eich rhanbarthau. Chi fydd yn cyfrannu cynnwys y llyfr!!
Fydd y llyfryn yn adlewyrchiad o ranbarthau MyW Cymru ac yn adnodd am flynyddoedd i ddod ar gyfer aelodau o’r mudiad (a phobl sydd ddim yn aelodau) profi cyfoeth ein gwlad. Hoffwn i bob rhanbarth rhestri:
· Lle diddorol i ymweld ag e’
· Taith gerdded
· Chwedl neu hanes lleol neu gastell nodedig
· Rysáit o’r rhanbarth
· Geiriau o dafodiaith
· Ac wrth gwrs digon o luniau a ffeithiau diddorol i gadw diddordeb. Dim byd yn y cynnwys all ddyddio neu fusnesau all gau.
Llyfryn yw hwn i’w ddefnyddio yn flynyddol wrth ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol neu wyliau teuluol. Fydd cyfnod olaf fy llywyddiaeth yn gychwyn ar ddathlu chwedeg o flynyddoedd ein mudiad. Ac wrth gwrs beth sydd yn well na nwyddau newydd i ddathlu a….fi’n credu fod e’n saff i fi ddweud bydd ddim bag y tro yma!! Un o’r nwyddau hoffwn gael fydd crysau Polo ac wrth gwrs mewn lliw pinc…gyda brawddeg neu ymadrodd pwrpasol, …..cystadleuaeth falle!
Ar gyfer y flwyddyn gyntaf o fy llywyddiaeth, (fel nes i son yn gynt) gofynnaf yn garedig i bob cangen/clwb i drefnu digwyddiad mawr neu fach does dim gwahaniaeth, i godi arian……ac yn fy ail flwyddyn byddai digwyddiad rhanbarthol yn gyfle i dynnu pawb at ei gilydd. (Plis peidiwch a bancio’r arian yma yn eich cyfrif, bydd angen trosglwyddo’r arian yma fel arian parod i’r Swyddfa yn Aberystwyth).
Fel mae rhai ohonoch chi’n gwybod dwi’n hoff o gerdded a’r bwriad fydd gwneud teithiau cerdded noddedig yn debyg i'r (Walk for Life) neu beth am “MoonWalk” (mewn bras lliwgar) o amgylch Aberystwyth! Dewch gyda fi, bydde’r cwmni yn lyfli!
….a gyda hynny o eiriau (am nawr) hoffwn am y ddwy flynedd nesaf gyda’ch cymorth chi creu agwedd o…. .”Bositifrwydd mewn Pinc”.