Hafan > Newyddion > Pethau Olyv yn ymweld â Cangen Y Tymbl
Pethau Olyv yn ymweld â Cangen Y Tymbl
Cafodd Merched y Wawr Y Tymbl noson hwyliog a difyr dros ben ar Ebrill 25ain pan ofynnwyd i siop "Pethau Olyv,",San Cler i gynnal Sioe Ffasiynau iddynt yn Neuadd y Tymbl. Gwahoddwyd canghennau eraill i ymuno ag aelodau y gangen leol a oedd hefyd yn gyfrifol am arddangos y dillad. Cynhaliwyd yr achlysur yn broffesiynol iawn a gorffennwyd y noson drwy fwynhau caws a gwin. Er y gwaith paratoadol caled a fu yn angenrheidiol ymlaen llaw, bu'r noson yn llwyddiant ysgubol, a chasglwyd £1500 i Uned Peony, Cancr y Fron. Ysbyty Llanelli