Hafan > Newyddion > Noson grefftau Glyn Maelor
Noson grefftau Glyn Maelor
Mae aelodau Rhanbarth Glyn Maelor wedi bod yn edrych ‘mlaen ers mis Hydref i dreulio amser yng nghwmni Gwenno Jones Crefftau’r Gelli, i weld a chlywed sut yn union ma’ hi yn creu’r holl bethau bendigedig yn cynnwys y cysgodion lampau.
Cawsom gyfle nos Lun y 9fed, a ma’ Gwenno yn neud yr holl broses edrych mor hawdd! Noson dda iawn yn ei chwmni a chyfle i wario ar ol sgwrsio!