Hafan > Newyddion > Noson grefftau Glyn Maelor


Noson grefftau Glyn Maelor


Nos Lun y 10fed o Fehefin cawsom noson arbennig iawn yng nghwmni Bethan Hughes, Rhuthun. Iaith, diwylliant a hanes Cymru, ydi ysbrydoliaeth Bethan – “yr angen i adrodd stori, a thaflu golau ar ran fach o'n hanes”. Mae hi'n gweithio trwy gyfrwng ffabrig a phwyth ac mae gwaith Bethan yn arbennig iawn. Nid yn unig cawsom gyfle i glywed mwy am ei phroject diweddara - Pwytho Llais, ond cyfle hefyd i bwyso a mesur pwysigrwydd X yn ein bywydau. Cafwyd Arddangosfa o waith crefftau aelodau'r Rhanbarth.Cawsom wledd o weld y gwahanol grefftau ac edrych ar yr holl waith cywrain. Llun 1 a 2 – Bethan M Hughes yn arddangos un darn arbennig o’i gwaith Llun 3, 4, 5 ychydig o luniau o’r gwaith crefft. Mae llun 5 yn dangos gwaith Catherine Howarth. Dechreuodd Catherine nyddu 2 flynedd yn ôl ac ar ôl cael digon o wlân o ansawdd da i’w weu, dyma’r prosiect 1af, het a menig.