Hafan > Newyddion > Noson chwaraeon Abergorlech


Noson chwaraeon Abergorlech


CANGEN ABERGORLECH A’R CYLCH

Cynhaliwyd Noson Chwaraeon Blynyddol y Gangen yn Neuadd Brechfa. Croesawyd Canghennau Llangadog, Nantgaredig, Bro Pantycelyn, Pencader a Phumsaint.

Roedd y chwarae yng nghofal medrus Pat Thomas a Beryl Owen, Trap. Diolch yn fawr i’r ddwy am noson hwylus iawn. Mwynhawyd lluniaeth hyfryd ar y diwedd wedi ei pharatoi gan aelodau Cangen Abergorlech.