Hafan > Newyddion > Merched y Wawr Cangen Y Groeslon Rhanbarth Arfon


Merched y Wawr Cangen Y Groeslon Rhanbarth Arfon


Yn y llun mae’r Parch Nia Williams  ynghyd â’i mam, Olwen, a swyddogion  y gangen – Delyth, Mair a Gwen.

Yng nghyfarfod Tachwedd, cawsom ni yng nghangen Y Groeslon, Arfon, y fraint o gael cwmni merch un o’n haelodau. Olwen Rowlands yw’r fam a’r ferch yw’r Parch Nia Catrin Williams, sydd yn Ficer eglwysi Plwyf Beuno Sant, Uwchgwyrfai ac sydd wedi ei phenodi'n Ddeon Cadeirlan Bangor ac yn Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol. Roedd y lluniau a’r arteffactau a oedd ganddi i gyd-fynd â’i sgwrs yn agoriad llygad, a gwelwyd ei Christnogaeth ar waith yn ei swydd fel Caplan yn y Fyddin am flynyddoedd, a hynny mewn sefyllfaoedd anodd ym Mhrydain a ledled y byd.