Hafan > Newyddion > Merched y Wawr Cangen Treboeth yn cloi blwyddyn ddiddorol ac amrywiol yn ymweld ag amgueddfa Abertawe.
Merched y Wawr Cangen Treboeth yn cloi blwyddyn ddiddorol ac amrywiol yn ymweld ag amgueddfa Abertawe.
Merched y Wawr Cangen Treboeth.
I gloi blwyddyn diddorol ac amrywiol fe gwrddodd aelodau o’r gangen yn amgueddfa Abertawe bore Iau diwethaf, Mehefin 11eg. Mae sawl arddangosfa ymlaen ar hyn o bryd. “Merched Drwg a Bechgyn Drwg” a ysbryolwyd gan lyfrau Elizabeth Belcham sy’n adrodd stori troseddwyr Abertawe yn ystod Oes Fictoria.
Gwelwyd lluniau o’r merched a’r bechgyn drwg yn ogystal â disgrifiadau o’u troseddau.
Hefyd , mae arddangosfa wedi’i chreu i ddathlu hanes diwydiant cocos Penclawdd- “Cofio Menywod y Cocos”.
Mae ffotograffau, printiadau a gwrthrychau i’w gweld ac mae ffilm ddogfen fer.
Ar ôl crwydro’n hamddenol o gwmpas yr arddangosfeydd, cerddodd y grŵp i gael pryd o fwyd mewn bwyty ger y marina

