Hafan > Newyddion > Marlyn Samuel yn ymweld a changen Penrhosgarnedd
Marlyn Samuel yn ymweld a changen Penrhosgarnedd
MERCHED Y WAWR PENRHOSGARNEDD Roedd ein cyfarfod mis Ionawr ar noson oer a rhewllyd, ond buan y cynhesodd pawb yng nghysur Cae Garnedd, a dihangfa wresog nofelau Marlyn Samuel. Daw Marlyn o Bentre Berw Ynys Môn. Mae hi’n gweithio i’r BBC ym Mangor ac yn ei hamser sbâr yn weithgar iawn gyda Theatr Fach Llangefni, yn actio, cynhyrchu a sgriptio. Ydych chi’n cofio’n taith i weld Genod y Calendr rai blynyddoedd yn ôl bellach? Rywsut mae hi hefyd yn cael amser i ysgrifennu, ac erbyn hyn mae hi wedi cyhoeddi pum nofel. Nofelau ysgafn am hanesion teuluol ydyn nhw, gyda naws cwbl Gymreig a digonedd o hiwmor yn pefrio drwyddynt. Maen nhw’n llawn o ddeialog slic sy’n eich taflu i mewn yn syth i fywydau’r teuluoedd sy’n wynebu sefyllfaoedd annisgwyl. Nofelau i godi calon. Eglurodd Marlyn sut roedd cyfleu pobl yn siarad wedi bod yn bwysig iddi erioed, yn ei gwaith gyda’r theatr, ac yn y nofelau. Mae gwylio pobl a gwrando ar sgyrsiau (byddwch ofalus!) yn rhywbeth y mae hi’n ei wneud yn naturiol. Gorau oll os yw’r stori yn arwain at ryw daith tramor hefyd, fel y mae ambell un. Dewisodd Marlyn ddarnau o bob un o’i nofelau i ddarllen i ni, a chafwyd hwyl yn gwrando arni, yn portreadu’r cymeriadau gyda chryn dipyn o arddeliad. Addawodd pawb fynd i’r llyfrgell drannoeth i chwilio am unrhyw un o’r pum nofel nad oedden nhw wedi’i darllen. Diolchodd ein Llywydd, Elen Lansdown i Marlyn am noson hwyliog ac agos atoch. Cyhoeddodd y bydd Cinio Gŵyl Ddewi ar 15 Mawrth, i wneud iawn am siom y Nadolig, felly edrychwch ar eich e-byst, bydd bwydlen ddeniadol yn eich cyrraedd yn fuan!