Hafan > Newyddion > Hynt a Helynt Bro Elfed
Hynt a Helynt Bro Elfed
Merched y Wawr Bro Elfed
Prin yw’r menywod sy’n pobi bara heddiw ond un sydd wrth ei bodd yn gwneud hynny yw Linda James, Glandwr. Mae ei merch Gwawr wrth ei bodd yn coginio hefyd ac yn gogydd proffesiynol mewn gwesty. Braf oedd croesawu’r ddwy atom i Hermon ar Ionawr 10fed a’u gweld yn paratoi nifer o ddanteithion hyfryd. Ddiwedd y nos cawsom flasu’r cynnyrch gyda phaned o de a chafwyd cyfle i brynu amrywiaeth o basteiod a chacennau.
Croesi’r ffin o Sir Gaerfyrddin i Sir Benfro wnaethom ni nos Iau, Chwefror 1af a chael noson hwyliog iawn yng nghwmni Merched y Wawr Tegryn a changhennau eraill gogledd sir Benfro. Roedd yr adloniant dan ofal Rhydian Evans a Dafydd Vaughan, Menter Sir Benfro. Wedi sawl rownd ddifyr dros ben, cangen Bro Elfed ddaeth i’r brig yn y cwis ac enillodd Rhiannon y wobr gyntaf am y limrig.
Beth yw swyddogaeth Comisiynydd yr Heddlu? Cawsom ateb i’r cwestiwn hwnnw ym Mryn Iwan ar Chwefror 7fed yng nghwmni’r siaradwr gwadd, Dafydd Llewelyn, Comisiynydd Heddlu Dyfed Powys. Gydag etholiad am y swydd honno ar Fai 2il, diolch iddo am roi o’i amser prin i ddod atom.
Wyddoch chi bod modd teithio ar dren am ddim gyda cherdyn teithio ar rai llinellau a dyddiadau penodol? Ers misoedd lawer bu’r gangen yn trafod taith i’r Amwythig ar Lein Calon Cymru. Ddydd Sadwrn, Chwefror 24ain i ffwrdd â ni o orsaf Llandeilo gan fwynhau golygfeydd godidog ar hyd y daith. Wedi cyrraedd tref yr Amwythig cawsom ginio blasus mewn bwyty Eidalaidd a digon o gyfle i siopa a chrwydro o gwmpas y dref cyn dychwelyd adref.
Daeth Cangen Llanpumsaint atom i ddathlu Gwyl Ddewi mewn noson gawl ym Mlaenycoed ar Fawrth 6ed. Mae Gwyndaf Davies yn saer crefftus ac fe wnaethom ymweld â gweithdy Brynseiri ar Ebrill 3ydd. Roedd y sied yn llawn o bethau bendigedig wedi eu gwneud gan Gwyndaf a’i dad Haydn. Aeth nifer ohonom adre gyda rhoddion arbennig iawn.
Roedd ein cyfarfod ar Fai 1af ym Mryn Iwan o dan ofal ein hysg