Hafan > Newyddion > Helfa Drysor Cangen Llanelwy Gorffennaf 26
Helfa Drysor Cangen Llanelwy Gorffennaf 26
Trefnwyd Helfa Drysor gan gangen Llanelwy nos Wener 3ydd Orffennaf yn Rhuddlan a diweddwyd y noson yn cael bwyd yng ngwesty'r Talardy. Yn 1af oedd Iona, Ilyd a Mari o gangen Pandy Tudur, yn 2ail Dilys, Eleri, Iola a Mair o gangen Uwchaled ac yn 3ydd ail dim Pandy Tudur Myfanwy, Mererid ac Eirian.
Cyflwynodd Marian darian y Chwaraeon i Rhian ar ran gangen Uwchaled am ennill y fwyaf o bwyntiau gyda’r cystadlaethau chwaraeon yn ystod y flwyddyn.



