Hafan > Newyddion > Hazel yn ymweld a Cangen Bro Pantycelyn
Hazel yn ymweld a Cangen Bro Pantycelyn
Hazel Thomas Cydlynydd Tir Glas, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llambed, oedd gwestai mis Ebrill. Gwnaeth Hazel tywys yr aelodau trwy daith ei bywyd a’i gyrfa, wedi magu ar fferm yn Drefach Llanwenog, ble roedd ei theulu wedi ffermio ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Erbyn hyn mae Hazel yn gweithio ar brosiect sydd yn edrych ar ddatblygiadau bwyd a ffermio cynaliadwy, wrth edrych nôl, ar yr hen ffordd o fyw a ffermio, yn sgil y problemau hinsawdd. Fe wnaeth Hazel rannu dyddiadur ei hen ewythr, a oedd wedi cofnodi llafur gwaith ar y fferm o gwmpas 1900. Diolch Hazel am brynhawn diddorol a hwylus iawn.