Hafan > Newyddion > Hanes Cangen Penrhosgarnedd Ionawr a Chwefror 2022


Hanes Cangen Penrhosgarnedd Ionawr a Chwefror 2022


Ionawr 2022

Roedd pawb yn gyfarwydd â’n gwestai ym mis Ionawr, y gŵr busnes lleol Gari Wyn. Fel y gŵyr pawb, ei ddiddordeb mawr, ar wahân i geir, yw hanes, ac fel hanesydd roedd yn siarad â ni y tro hwn.

Hanes Cymry Lerpwl oedd ganddo, a sôn am gael yr hanes ar flaen ei fysedd! Gyda chymorth sleidiau, cawsom dro sydyn ond llawn ffeithiau a brwdfrydedd o amgylch y ddinas. Eglurodd Gari sut roedd cynifer o’r Cymry wedi bod yn allweddol yn nhwf a llewyrch Lerpwl; nifer wedi gadael Gogledd Cymru i drio’u lwc a gyda gwaith caled a gweld beth oedd angen ar ddinas oedd yn tyfu, wedi gwneud eu ffortiwn erbyn y diwedd. Mae’r enwau strydoedd y gadawsant ar eu hôl yn dyst i’r gweithgaredd. Roedd ganddyn nhw gydwybod gymdeithasol hefyd ac, wedi gwneud eu harian, roeddent yn buddsoddi ym mywyd diwylliannol y ddinas, a’r bywyd crefyddol yn arbennig. Roedd hi’n oes aur ar Anghydffurfiaeth Gymreig ac adeiladwyd capeli mawr a moethus i gynnal y tyrfaoedd. Roedd dwy Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl ymhlith y mwyaf rhwysgfawr, roedd y gweisg yn dechrau dod i’w hanterth, ac yma y cyhoeddwyd rhai o bapurau newydd allweddol cyntaf Cymru; a rhai o drysorau’n llên.

Nid hanesydd cadair freichiau yw Gari Wyn, mae’n gwneud ei ymchwil ar ei draed; a chawsom luniau ohono ef a Modlen wrth garreg beddi rhai o’r gwŷr mawr, mewn parc, o flaen siop a chapel ac eglwys. Un o’r enwau mawr oedd David Hughes, Trwyn yr Wylfa dyn mwyaf cyfoethog Ynys Môn yn ôl y sôn, a dyma lun o Modlen ar stryd a adeiladwyd ganddo ger Anfield, ie yn addas iawn, Bala Street.

Roedd pawb wedi’u syfrdanu gan y fath wybodaeth a brwdfrydedd ac er yr ystrydeb, gallem fod wedi gwrando ar awr arall yn hawdd! Cafwyd trafodaeth wedyn ac nid oedd yn syndod clywed bod gan gynifer o’r aelodau gysylltiadau teuluol agos â’r ddinas. Syniad i ti Gari: mae nifer o deithiau bws yn mynd â chi o amgylch dinas Lerpwl, un yn dangos yr hanes a’r adeiladau, un arall yn gysylltiedig â’r Beatles.  Oni fyddai’n dda cael un yn sôn am hanes y Cymry? Byddem i gyd yn dod ar y daith, a gallet ddenu canghennau Merched y Wawr o bob cwr o’r Gogledd dwi’n siŵr. Cyn i’r holl gysylltiadau fynd yn angof.

Chwefror 2022

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan ein Llywydd, Nia Humphreys. Ei gorchwyl trist cyntaf oedd cyfeirio at farwolaeth Madge Huws. Ers blynyddoedd roedd Madge wedi ymgartrefu ym Mynytho ac yn enwog trwy Gymru ym myd llefaru yn yr Eisteddfod. Ond cofio amdani fel ysgrifennydd cyntaf Cangen Penrhosgarnedd o Ferched y Wawr wnaethom ni. Gorchwyl mwy pleserus oedd dymuno pen-blwydd hapus iawn i Valerie Ellis, aelod o’n chwaer gangen, a hwnnw’n ben-blwydd go arbennig.

Y mis diwetha roeddwn yn awgrymu y byddai taith fws o amgylch Lerpwl yn ddiddorol yn dilyn ein sgwrs gan Gari Wyn. Pe bai gennym y cyfryw fws at ein galw, byddai’r daith nesaf yn sicr yn mynd â ni i’r Lasynys Fawr, cartref Elis Wynne. Gorau oll pe bai’n ddiwrnod o haf hirfelyn tesog...

Ein Nerys Roberts ni oedd yn annerch y mis hwn ac yn hel atgofion am y cyfnod pryd y bu’n warden ar y Lasynys, cartref y llenor Ellis Wynne. Wedi ymddeol o ddysgu, a meddwl “be wnâi nesa”, ymatebodd Nerys i hysbyseb yn y Cymro oedd yn chwilio am rywun i edrych ar ôl cartref Ellis Wynne. Cafodd y swydd, gosododd y tŷ ym Mangor i fyfyrwyr, a llenwodd fan gyda dodrefn a thipyn o blwc a glanio yn Is y Deri, y tŷ drws nesaf i’r Lasynys.

Roedd un rhwystr mawr yn ei hwynebu ar y dechrau - Clwy’r Traed a’r Genau a olygai na allai hi hyd yn oed groesi’r cae am yr wythnosau cyntaf i fynd at y Lasynys. Rhyfedd fel y diflannodd hyn o’n cof a ninnau’n meddwl fod cyfyngiadau’r Covid yn rhywbeth hollol newydd. Beth bynnag, treuliodd Nerys yr amser hwn yn darllen ac yn ymgyfarwyddo â bywyd Ellis Wynne, yn arbennig yn llyfrau’r diweddar Athro Gwyn Thomas. Gyda help ffotograffau, daeth Nerys â hanes y llenor a’i gartref yn fyw iawn i ni. Ond nid traethu am ei fywyd yn unig roedd Nerys yn ei wneud, roedd rhaid iddi droi ei llaw at bopeth - glanhau’r tŷ, gweini yn y caffi, gwneud sgons i’r caffi gan obeithio na fyddai gormod o bob yn ymweld yr un pryd. Er bod Nerys wedi trwytho’i hun yn hanes Ellis Wynne a’i gyfnod, roedd hi’n amlwg y gallai hi newid ei sgwrs i fod yn addas i bawb, yn gymdeithasau hanes a phlant ysgol fel ei gilydd.

Roedd pawb wedi’u swyno gan yr hanes ac wedi dysgu llawer a diolchodd y Llywydd i Nerys am noson gofiadwy iawn. “A ddarllenno, ystyried”.