Hafan > Newyddion > Gŵyl Wanwyn Dwyfor 2022


Gŵyl Wanwyn Dwyfor 2022


Gŵyl Wanwyn Dwyfor 2022

Cynhaliwyd Gŵyl Wanwyn Dwyfor yn y Ganolfan yn Nefyn ar y 23ain o Ebrill. Cafwyd bore o gystadlu’n yr adrannau Crefft, Celf, Ffotograffiaeth, Coginio a Gosod Blodau. Yna’n y prynhawn daeth nifer o aelodau ynghyd i wrando ar Meinir Pierce Jones yn beirniadu’r cystadlaethau Llenyddol. Cyflwynwyd y darian am y nifer mwyaf o farciau i gangen Chwilog. Enillodd Meinir Roberts, Cangen Llwyndyrys ac Eirlys Wyn Jones, Cangen Chwilog y darian am yr unigolion gyda’r nifer mwyaf o farciau.