Hafan > Newyddion > Gŵyl Rhanbarth Meirionnydd Ebrill 2026
Gŵyl Rhanbarth Meirionnydd Ebrill 2026
Cynhaliwyd Gŵyl Rhanbarth Meirionnydd yn Neuadd Llanegryn. Croesawyd pawb gan Haf Puw, Llywydd y Rhanbarth. Yn dilyn gwledd gan Shan Jones daeth aelodau o Ffermwyr Ifanc Cwmtirmynach atom i'n diddanu. Diolchwyd i bawb gan Margiad Davies, Is-Lywydd y Rhanbarth. Diolch i Ann Jones, yr Ysgrifennydd am yr holl drefniadau ac i Bethan Edwards, y Trysorydd.




