Hafan > Newyddion > Gweithdai Celf Rhanbarth Colwyn


Gweithdai Celf Rhanbarth Colwyn


Gweithdai Crefft Rhanbarth Colwyn 2024

Rydym wedi cynnal dau weithdy llwyddiannus yn y rhanbarth eleni. Y cyntaf yng nghwmni Siân Elen, Cwlwmwaith. Cafwyd cyfle i ddysgu'r grefft o facramé a chreu crogwr wal yr un, buan iawn sylweddolwyd nad hawdd oedd creu'r clymau! Ond erbyn diwedd y pnawn roedd pawb yn falch o’i gwaith. Llawer o Ddiolch I Siân

Yna gweithdy hamddenol gyda Katherine Brown, Plygiadau Perffaith. Cyfri, mesur a phlygu bu'r criw yn ddiwyd yn ei wneud drwy'r dydd gan greu calon a draenog drwy y grefft o blygu llyfrau. Llawer o Ddiolch i Katherine

Gweithdy Crefft Rhanbarth Colwyn yng nghwmni Sian Elen, Cwlwmwaith

Gweithdy Crefft Rhanbarh Colwyn yngh nghwmni Katherine Brown, Plygiadau Perffaith