Hafan > Newyddion > Gwasanaeth Nadolig Y De Ddwyrain 2024
Gwasanaeth Nadolig Y De Ddwyrain 2024
Diolch yn fawr i Gangen Merched y Wawr Y Fenni am drefnu ein Gwasanaeth Nadolig yn ddiweddar. Diolch i’r holl aelodau am eu darlleniadau a chefnogaeth hefyd. Cawsom gyfle i gymdeithasu yn y te prynhawn blasus a ddarparwyd gan Gangen y Fenni. Gwnaed casgliad o dros £400 I Dy Hafan a braf oedd cael cwmni Claire Horrex, rheolydd codi arian yn y Gymuned I Dŷ Hafan.