Hafan > Newyddion > Gwasanaeth Llith a Charol Meirionnydd Rhagfyr 2025


Gwasanaeth Llith a Charol Meirionnydd Rhagfyr 2025


Yn ystod gwasanaeth Llith a Charol Rhanbarth Meirionnydd o Ferched y Wawr, codwyd £457.87 tuag at elusen ‘Gorwel’, Adran Gwynedd a Môn (trais yn erbyn Merched).

Trosglwyddwyd yr arian gan swyddogion cangen Y Bala a’r rhanbarth.

Diolch i’r ddwy gynrychiolydd Gorwel am ymuno â ni yn ein gwasanaeth.