Hafan > Newyddion > Gorllewin Caerfyrddin yn mynd ar daith cerdded


Gorllewin Caerfyrddin yn mynd ar daith cerdded


Cerdded. Cerdd a Cynefin yw prosiect ein Llywydd Cenedlaethol ac, am fod Jill Lewis yn byw yn yr ardal, fe benderfynodd 5 cangen a chlwb gorllewin Rhanbarth Caerfyrddin ddod at eu gilydd am daith gerdded o ryw 4 milltir.

Ar fore godidog o Wanwyn cyfarfu bron i ddeugain yng Nghanolfan Hywel Dda, Hendygwyn cyn cerdded heibio cartref y cyfansoddwr William Mathias i safle Abaty Hendygwyn. Yno, cafwyd hanes hynod ddiddorol yr Abaty gan Margarette Hughes    (a dysgu llawer!) ynghyd a chyfle i fwynhau’r wlad ar ei gorau. Cerdded nȏl i’r Hendygwyn i fwynhau cinio yng nghaffi Canolfan Hywel Dda. Cafwyd gair gan Jill a Jane Morgan a hyfryd oedd cael eu cwmni yn ymuno ȃ ni.

Yna cyflwynwyd cerddi oedd ȃ chyswllt ȃ’r ardal gan Meinir a Susan o Gangen Gronw, Marian a Iona o San Cler, Margarette ac Ann o Hendygwyn a Margaret o Fro Alma.

Diolch i Jill a Jane am roi o’u hamser i ymuno gyda ni, i Margarette am hanes yr Abaty ac i Iona am wneud y trefniadau i gyd.