Hafan > Newyddion > Ffion Pritchard yr artist yng nghwmni cangen Penrhosgarnedd


Ffion Pritchard yr artist yng nghwmni cangen Penrhosgarnedd


MERCHED Y WAWR PENRHOSGARNEDD

Rydym wedi bod yn ffodus eleni i gael cwnni merched ifanc sydd wedi gwneud eu marc mewn gwahanol feysydd ac sy’n dal i fyw yn lleol. Braf iawn y tro hwn eto oedd croesawu Ffion Pritchard, sy’n byw hop, cam a naid o Gae Garnedd!

Artist amlddisgyblaethol yw Ffion, sydd yn cyflym ennill ei phlwyf yn y byd celf gyfoes. Wedi llwyddiant yn y Brifysgol yn Brighton, setlodd Ffion nôl ym Mangor maes o law i arbrofi gyda gwahanol feysydd a chyfleoedd. Un o’u huchafbwyntiau oedd ennill Ysgoloriaeth Adran Celf, Dylunio a Thechnoleg Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 2018. Ers hynny, ac er gwaetha’r cyfnod clo, mae Ffion wedi mynd o nerth i nerth.

 ni, ferched traddodiadol y Wawr, mae Celf yn golygu darlun chwaethus wedi’i fframio’i ddel ar y wal, ond dangosodd Ffion i ni fod Celf yn golygu llawer mwy na hynny erbyn hyn. Mae’r ‘llwyfan digidol’ yr un mor bwysig â’r oriel gelf leol. Trwy gyfrwng lluniau a sleidiau, gwelsom gymaint o wahanol agweddau sydd i waith Ffion, gyda ffotograffiaeth a ffilm yn mynd law yn llaw â pheintio traddodiadol.

Gweithio yn y gymuned mae Ffion yn bennaf. Eglurodd sut mae hi’n gweithio gyda chriwiau o bobl ifanc, neu grwpiau cymunedol, a soniodd sut mae ymgolli mewn celf, neu unrhyw weithgaredd creadigol, yn ffordd o ymdawelu a chael boddhad. Mae hi hefyd yn un y sylfaenwyr Gŵyl y Ferch’ sy’n rhoi llwyfan i waith creadigol gan ferched lleol. Yn ogystal â’r gwaith lleol, cafodd Ffion gyfleoedd i deithio gyda’i chelf hefyd a chawsom hanesion difyr am eu hamser yn Washington ac yn Serbia.

Gobeithio wir y cawn fwy o gyfle i werthfawrogi gwaith Ffion yn y dyfodol eto. Yn y cyfamser, mae ein pwyllgor bach artistig ni yn brysur iawn yn cynllunio gwaith celf ar gyfer pabell y mudiad yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd. Llwybrau yw’r testun a’n llwybr ni fel cangen yw’r un rhwng y ddwy bont. Mae’r gwaith yn dal i fod yn y camau cynnar, felly os cewch gyfle i fynd ar hyd y llwybr ac os ydych yn gweld unrhyw beth o ddiddordeb, neu os yw’r awen yn eich taro, soniwch wrth y pwyllgor neu un o’r swyddogion. Mwy am hyn dros y misoedd nesaf.

Llun: Glenda ac Elen yn edmygu portffolio o waith yr artist Ffion Pritchard