Hafan > Newyddion > Ffair Haf Aberconwy Mehefin 26


Ffair Haf Aberconwy Mehefin 26


 

Ffair Haf Rhanbarth Aberconwy 2026

Cynahaliwyd y Ffair Haf yn Neuadd Talybont. Croesawyd pawb yno gan Myfanwy Roberts, Llywydd y Pwyllgor Celf a Chrefft.

Agorwyd y Ffair gan Bethan Jones Parry, yr Is-lywydd Cenedlaethol.

‘Roedd canghennau Eigiau, Llanrwst, Carmel, Eglwysbach a Betws y Coed a’r fro wedi dod ag amrywiaeth o nwyddau i’w gwerthu ar y byrddau.

Cafwyd sgwrs ddifyr iawn gan Huw Roberts yn sȏn am ei grefft o wneud eitemau allan o bren. ‘Roedd ei grefftwaith yn werth i’w gweld.

Yn ystod y noson cynhaliwyd cystadleuaeth Radi Thomas y Rhanbarth. Jane Roberts, Ysbyty Ifan oedd yn beirniadu.                                                                                                                                                                                                                                Dyma’r canlyniadau:-                           

Eitem wedi ei wau gyda llaw mewn lliw glas  

!af – Eifiona Davies, Penmachno

2il – Myra Jones, Eigiau

Cydradd 3ydd – Ann Jones a Myra Jones, Eigiau

Eitem 3D a’i brif liw yn las

1af – Iona Ellis, Llanrwst

Clawr llyfr a’i brif liw yn las

1af – Ann P. Williams, Penmachno

3 Ffotograff neu baentiad a’i brif liw yn las

1af – Carys Pierce, Penmachno

4 Brownie neu Blondie neu gyfuniad

1af – Carys Pierce, Penmachno

2il – Ann Jones, Eigiau

3ydd – Anwen Gwyndaf, Penmachno

Enillwyd y darian am y marciau uchaf gan Gangen Penmachno.

Annette Evans, Llywydd y Rhanbarth oedd yn rhoi’r diolchiadau.

Cafodd pawb baned cyn  troi am adref.

Diolch i aelodau’r Pwyllgor celf a Chrefft am drefnu’r noson.