Hafan > Newyddion > Ffair Haf Aberconwy


Ffair Haf Aberconwy


Ffair Haf Rhanbarth Aberconwy yn Neuadd Talybont

Trefnwyd y Ffair Haf gan aelodau Pwyllgor Celf a Chrefft y rhanbarth. Croesawyd pawb gan Myfanwy Roberts, Llywydd y Pwyllgor. Agorwyd y Ffair gan Geunor Roberts, y Llywydd Cenedlaethol. 'Roedd canghennau Llanddoged, Mochdre, Penmachno a Chyffordd Llandudno wedi dod a byrddau gwerthu er mwyn casglu arian i'r canghennau. Yn ystod y noson cynhaliwyd cystadlaethau Cwpan Radi Thomas y Rhanbarth. Y beirniaid oedd Ann Hughes. Dyma'r canlyniadau:-

Coginio

1af ac 2il - Haf Roberts, Betws y Coed a'r fro

3ydd - Ann Jones, Eigiau

Bag / Basged bicnic

1af - Iona Ellis, Llanrwst

Llun / Ffotograff

1af - Gwawr Mowart, Capel Garmon

2il a 3ydd - Carys Pierce, Penmachno

Map

1af - Anwen Gwyndaf, Penmachno

Marciau uchaf yn y cystadlaethau - Cangen Penmachno

Yr oedd Cangen Eigiau yng ngofal y baned.

Diolchwyd i bawb gan Annette Evans, Llywydd y Rhanbarth.