Hafan > Newyddion > Ffair Haf Aberconwy


Ffair Haf Aberconwy


Trefnodd Pwyllgor Celf a Chrefft Rhanbarth Aberconwy Ffair Haf yn Neuadd Talybont ar y 15fed o Fehefin. Croesawyd pawb gan Myfanwy Roberts. Agorwyd y Ffair gan Angharad Rhys. Roedd canghennau Penmachno, Capel Garmon, Mochdre a Llanddoged wedi dod a stondinau yno. Cafwyd sgwrs ddifyr gan Cefyn Burgess am Fryniau Casia a chyfle i weld ei waith. Enillodd Cangen Eigiau’r darian am y marciau uchaf yng nghystadleuaeth Radi Thomas y rhanbarth.