Hafan > Newyddion > Dwy o aelodau Casnewydd yn dathlu 90!


Dwy o aelodau Casnewydd yn dathlu 90!


Dyma lun o ddwy o'n haelodau oedd yn dathlu eu penblwyddi yn 90 oed ym misoedd Ionawr a Chwefror eleni.  Mae'r ddwy, Elan ac Enid, wedi bod yn aelodau gweithgar a ffyddlon o'r gangen ers 50 mlynedd. Roedden nhw'n rhan o'r grŵp wnaeth sefydlu Cangen Casnewydd a'r Cylch nôl ym Mis Hydref 1975.  Braf iawn oedd medru dathlu gyda nhw yn ein cyfarfod ym Mis Chwefror. Pob dymuniad da i'r dyfodol i'r ddwy!