Hafan > Newyddion > Diwrnod Hirddydd Haf, Pentre Ifan


Diwrnod Hirddydd Haf, Pentre Ifan


Diwrnod Hirddydd Haf, Pentre Ifan

Treuliodd grŵp o Ferched y Wawr Rhabarth Penfro ddiwrnod prysur ond hwylus ym Mhentre Ifan gyda dros 180 o blant Blwyddyn 5 o ysgolion y Sir. Roedd hi’n bleser gweithio gyda’r plant, yr athrawon a staff y ganolfan.  Buodd y plant yn brysur yn dysgu enwau blodau gwyllt cyffredin y cloddiau, yn eu darlunio ar  ddefnydd er mwyn creu bynting, ac yn chwarae gemau i gyfatebu lluniau ac enwau blodau. Erbyn diwedd pob sesiwn, roedd pawb wedi dysgu enwau deg blodyn – y plant a rhai o’r oedolion! Bydd y bynting yn harddu pabell Merched y Wawr yn Eisteddfod y Garreg Las.

Diolch i’r plant am weithio mor dda, a diolch i’r oedolion am helpu. Diolch yn arbennig i aelodau Merched y Wawr am baratoi popeth ar gyfer y diwrnod, ac am weithio mor galed trwy’r dydd.