Hafan > Newyddion > Dei Tomos yn ymweld â changen Penrhosgarnedd


Dei Tomos yn ymweld â changen Penrhosgarnedd


MERCHED Y WAWR PENRHOSGARNEDD

Lluniau o’n cyfarfod diwethaf pryd y cawsom gwmni hawddgar y darlledwr Dei Tomos. Cawsom ddarlun hyfryd a meddylgar o fro ei febyd, “Nant y Betws” a chreodd naws arbennig ar y noson.

Dei yn sgwrsio’n braf â’r aelodau wedyn

Ac roedd rhai yn cofio am yr holl hwyl a gafwyd gyda Dei fel Pennaeth Gwersyll Glan-llyn.

Dyma Cynthia Owen yn derbyn tlws am y gangen fuddugol yn y cwis gan Tegwen, y Llywydd Cenedlaethol. Cawn gyfle i edmygu’r tlws ac ymfalchïo yn llwyddiant y tîm yn ein cyfarfod fis nesaf.

Ac mae’n swyddogol – Glenda Jones, Llywydd Rhanbarth Arfon yn gwahodd pawb o’r Mudiad i Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd. Gallwn eich sicrhau y bydd y babell yn werth ei gweld!