Hafan > Newyddion > Debbie Drake yn ymweld a changen Penmachno
Debbie Drake yn ymweld a changen Penmachno
Daeth Debbie Drake, oedd yn rownd derfynol y Great British Sewing Bee atom i Benmachno i gyfarfod cyntaf y tymor ar Fedi’r 19eg. Mae Debbie yn enedigol o Benmachno ac yn ymfalchïo yn ei gwreiddiau, fel y dwedodd sawl gwaith ar y rhaglen deledu bobologaidd!
Cawsom hanes diddorol gwneud y rhaglen a gobeithion Debbie i’r dyfodol, fel agor Ysgol Wnïo a chynnal cyrsiau ag ati.
Roedd yn ddiddorol iawn cael gweld y dilladau yr oedd wedi eu gwneud ar y rhaglen, a’r gwaith cywrain oedd angen i lwyddo, gan ennill sawl ‘Dilledyn yr Wythnos’ ar y rhaglen.
Roeddem wedi gwahodd aelodau o ganghennau Rhanbarth Aberconwy i gyd a hyfryd iawn oedd croesawu tua 80 o ferched i Neuadd Ty’n Porth i ddathlu dechrau blwyddyn - pawb mor falch o weld ei gilydd a chymdeithasu unwaith eto! Noson dda!