Hafan > Newyddion > Dathlu straeon bwyd ac amaeth Sir Gâr


Dathlu straeon bwyd ac amaeth Sir Gâr


Dathlu straeon bwyd ac amaeth Sir Gâr

Mae Sir Gaerfyrddin wedi'i bendithio â thirwedd sy'n ymestyn o gopa’r Mynydd Du i draethau’r arfordir, gyda hinsawdd dymherus, priddoedd cyfoethog ac etifeddiaeth o ffermio cymysg a barhaodd hyd o fewn cof byw diweddar. Mae llawer o ddiwylliant gwledig y sir wedi'i gysylltu â chynhyrchu bwyd a'r calendar amaethyddol, ac mae hyn wedi cynhyrchu cyfoeth o ddywediadau, traddodiadau, ryseitiau ac arferion sy'n parhau'n fyw neu o fewn cyrraedd.

Gyda mentrau bwyd arloesol yn cymryd lle ar draws y sir erbyn hyn, mae partneriaeth Fwyd Sir Gâr yn adeiladu ar y cyffro hwn trwy brosiect creadigol a fydd yn adlewyrchu treftadaeth y sir ei hun ac yn adrodd rhan bwysig o stori fwyd Sir Gaerfyrddin at y dyfodol.

 

Gan gychwyn ar fferm sirol Bremenda Isaf, byddwn yn cynnal gweithdai gydag amrywiaeth o ysgolion, grwpiau a chymunedau gan siarad am hanes y fferm o gynhyrchu bwyd a gweithio gydag ymarferwyr creadigol i gynhyrchu amrywiaeth o gelf, barddoniaeth, tecstilau a chaneuon sy'n adlewyrchu'r tir, hanes a diwylliant. Byddwn yn postio dolenni i'r gwaith creadigol a gynhyrchwyd yn ystod y sesiynau hyn yn fuan iawn.

Cynhaliwyd y sesiwn gynta gyda thair cangen leol o Ferched y Wawr ar y 4ydd o Orffennaf yng nghwmni’r artistiaid Leigh Sinclair a Sian Lester, gyda’r chwiorydd yn rhannu atgofion o’r gorffennol a syniadau at y dyfodol – tra’n cynhyrchu cwdyn o gotwm wedi ei ailgylchu i fynd adre â nhw. Gobeithio’n fawr y bydd cyfle i wahodd canghennau eraill cyn bo hir!

Am fwy o wybodaeth am y prosiect, a ariennir gan Ffyniant Bro trwy Gyngor Sir Gâr, cysylltwch â helo@bwydsirgar.org.uk