Hafan > Newyddion > Cyngerdd Ymchwil Canser Cymru, Caerdydd
Cyngerdd Ymchwil Canser Cymru, Caerdydd
Cafodd Bethan Picton Davies noson i’w Thrysori a chefnogi Ymchwil Canser Cymru. Braint oedd mynychu cyngerdd i gefnogi ymchwil Canser Cymru yn Y Deml Heddwch, Caerdydd. Mae gan gerddoriaeth allu ryfeddol i gyffwrdd ȃ chalonnau a dod ȃ phobl ynghyd a dyma gyngerdd oedd yn gwneud hynny am reswm gwirioneddol bwysig. Pleser oedd cefnogi Mari Grug sydd yn un o lysgenhadon Ymchwil Canser Cymru. Noson o adloniant yng nghwmni Bronwen Lewis, Cȏrdydd, Ysgol Gynradd Rhydypenau, cantores Evie Williams a Thelynores Gatrodol i’r Cymry Brenhinol ar hyn o bryd Cerys Rees.






