Hafan > Newyddion > Cyhoeddiadau Newydd Tân ar hen aelwyd


Cyhoeddiadau Newydd Tân ar hen aelwyd


Tân a Hen Aelwyd Nofel gan Rhian Cadwaladr Gwasg Carreg Gwalch, £9.99 Dyddiad Cyhoeddi: Mehefin 26ain, 2026

‘Dyma nofel berffaith i osod yn eich bag traeth, a’i darllen gyda sbectol haul ar eich pen, wrth fwynhau dyddiau haf hirfelyn tesog.’ Siân Thomas

Ar gyfer ei chweched nofel, mae’r awdures o Ddyffryn Peris, Rhian Cadwaladr, yn mynd yn ôl at ei gwreiddiau. Mae Tân ar Hen Aelwyd wedi ei lleoli yn ei phentref genedigol, Llanberis – ac fel ei nofel fer i siaradwyr newydd, Hanna, mae hi’n mynd â ni’n ôl i’r gorffennol. Yn nechrau’r nofel cawn gyfarfod Gari a Bet wrth iddyn nhw ddod ar draws ei gilydd ar hap mewn siop lyfrau yng Nghaerdydd, ac wrth i’w stori gyfoes ddatblygu cawn gip ar orffennol y ddau yn 1980, pan oedd y ddau yn ddeunaw oed ac mewn cariad â’i gilydd dros eu pennau a’u clustiau. ‘Roedd hi’n sioc i mi pan bwyntiodd rhywun allan i mi fod elfen hanesyddol yn Tân ar Hen Aelwyd, gan fod 1980 mor bell yn ôl. Wir, tydi o ddim yn teimlo felly!’ medd Rhian. ‘Ond mi wnes i fwynhau teithio'n ôl mewn amser wrth ymchwilio i’r cyfnod: ro’n i, fel Bet a Gari, yn y Chweched Dosbarth yn 1980 ac mae pethau fel noson Twrw Tanllyd yng Nghaernarfon, dathlu diwedd lefel A, Eisteddfod Dyffryn Lliw a Padarn Roc yn teimlo fel ddoe, er eu bod nhw dros 45 mlynedd yn ôl.’ Mae Rhian yn mynd â ni’n ôl i 1980 drwy gyfrwng dyddiadur Bet, sydd – fel roedd Rhian ei hun – yn gweithio yn nerbynfa Gwesty’r Fic, Llanberis. ‘Mae gen i stôr o atgofion da am y cyfnod,’ medd Rhian, ‘ond mi adawa i i chi ddyfalu pa ddigwyddiadau yn y nofel sy'n seiliedig ar y gwir!’ Tra mae stori Bet a Gari yn 1980 yn rhoi darlun o garwriaeth pobol ifanc, mae eu stori gyfoes yn archwilio themâu gwahanol iawn, megis y gwahaniaeth barn rhwng y cenedlaethau ynglŷn â magu plant. ‘A finna'n nain erbyn hyn, fel llawer o'm ffrindiau,’ eglura Rhian, ‘dwi'n ymwybodol iawn nad ydi magu plant heddiw yr un fath ag yr oedd hi – ac a dweud y gwir mae plant i weld yn anifeiliaid gwahanol iawn i be oeddan nhw! Cnewyllyn y stori gen i, felly, oedd profiad nain a thaid o orfod gwarchod eu wyrion am gyfnod estynedig, a'r helbulon oedd yn codi o hynny. Penderfynais wneud y nain yn lys-nain nad oedd erioed wedi magu plant ei hun... ond peth rhyfedd ydi sgwennu. Buan iawn y dechreuodd y stori fy llywio i, yn hytrach nag fel arall, a daeth Tân ar Hen Aelwyd yn fwy o stori garu na dim arall.’ Drwy hynt a helynt Bet a Gari, mae Rhian yn archwilio themâu eraill, megis gor-dwristiaeth yn rhai o ardaloedd Cymru, tensiwn mewn dinasoedd mawr a phlant yn treulio gormod o amser ar eu sgriniau. Thema arall bwysig yn y nofel ydi’r berthynas rhwng mam a merch: sut mae cymeriad rhywun yn cael ei siapio gan ei pherthynas â'i mam. Medd Rhian, ‘Mae hon yn thema dwi'n troi ati'n aml, ond y fam a'r ferch yma sydd â'r berthynas anoddaf, o'r holl rai dwi wedi sgwennu amdanyn nhw. Petawn i'n onest mi faswn i'n cyfadda nad oedd gen i a fy mam berthynas glòs iawn, ond doedd hi ddim byd tebyg i berthynas Bet a’i mam, felly dwi wedi gorfod treiddio’n ddwfn i'w cymeriadau i geisio deall eu perthynas. Roeddwn i'n actores flynyddoedd cyn i mi ddod yn awdur, felly dwi’n tynnu ar yr un technegau ag y mae actor yn eu defnyddio cyn portreadu cymeriad, mae’n siŵr.’

Bydd y gyfrol ar werth mewn siopau llyfrau ledled Cymru (£9.99), ar Ffolio.cymru ac ar wefan www.carreg.gwalch.cymru o 26 Mehefin, 2026.

Broliant cefn y clawr: Un cwpwl... dwy stori garu

Pan gerddodd Gari i mewn i siop lyfrau yng Nghaerdydd, doedd o ddim yn disgwyl gweld y ferch o Lanberis a ddiflannodd o’i fywyd heb air o eglurhad dros ddeugain mlynedd ynghynt. Doedd Beth, chwaith, ddim yn disgwyl dod wyneb yn wyneb â’r dyn roedd hi wedi ceisio mor galed i anghofio amdano. Ond mae ffawd yn beth rhyfedd... Nofel am garwriaeth bore oes, ac am fentro agor calon eto ar ôl pasio canol oed. Bywgraffiad awdur: Mae Rhian yn awdur pum nofel i oedolion: Fi Sy’n Cael y Ci, Môr a Mynydd, Plethu, Dathlu! a Gwaddol, nifer o lyfrau i blant, nofel i ddysgwyr a thri llyfr coginio. Yn frodor o Ddyffryn Peris, pan nad yw’n ysgrifennu, mi ddewch o hyd iddi yn y gegin neu’n crwydro’r bryniau efo’i chamera. Dyfyniadau clawr: ‘Mae gan Rhian ddawn ryfeddol i bortreadu cymeriadau’ Eirlys Wyn Jones ‘Mae isio mwy o nofelau fel hyn!’ Bethan Gwanas Nodiadau i Olygyddion: • Nith i Rhian sydd wedi creu’r darlun o dirlun ardal Llanberis ar flaen y clawr.

Mae Mared Cadwaladr Parry yn artist sy’n gweithio yn Eryri, ac mae ei gwaith i’w weld ar ei chyfrif Instagram: @maredcp_art •

Hon yw chweched nofel Rhian: mae manylion am ei nofelau blaenorol ar wefan Gwasg Carreg Gwalch. •

Mae rhestr wrando yn cyd-fynd â’r nofel i’w chael ar Spotify, yn llawn caneuon o 1980, pan oedd Gari a Bet yn ddeunaw oed. Chwiliwch am ‘Tân ar Hen Aelwyd’.

 

Am fwy o fanylion, i gyfweld â’r awdur neu am gopi adolygu, cysylltwch â Gwasg Carreg Gwalch: llanrwst@carreg-gwalch.cymru