Hafan > Newyddion > Cyhoeddiad Newydd Y Ferch ar y Traeth


Cyhoeddiad Newydd Y Ferch ar y Traeth


Y Ferch ar y Traeth

Catrin Gerallt

Gwasg Carreg Gwalch, £9.99

 

Dyddiad Cyhoeddi: 27 Gorffennaf 2026

 

Yn 2024, cyhoeddodd Catrin gerallt ei nofel gyntaf am Bethan Morgan –

gohebydd ar raglen deledu materion cyfoes,

sy’n troi i fod yn ymchwilydd i achosion torcyfraith.

Yn ogystal â’r gwrthdaro yn y swyddfa, maen dipyn o gamp

i Bethan jyglo holl beli ei bywyd teuluol, sy’n cynnwys gŵr sy’n cael affêr. 

Cafodd y nofel gyntaf dderbyniad ardderchog: ‘Mae hi hefyd yn glamp

o nofel dditectif garlamus a hynod ddarllenadwy,’ medd un adolygydd.

 

Yn yr ail nofel, mae Bethan yn dychwelyd at ei gwreiddiau yn sir Benfro. Mae Y Ferch ar y Traeth wedi’i lleoli yng ngwyliau haf 2023, gyda Bethan ar ei ffordd i bentre hudolus Traeth Llyfn yn sir Benfro i weld ei mam ac i chwilio am straeon ar gyfer cyfres nesa’r Byd a’r Betws. Yn affodus, mae gan Selwyn (ei bòs) drefniadau gwahanol ar ei chyfer ac mae’n ei galw yn ôl i’r swyddfa.

 

Ond mae digon o ddeunydd i gadw Bethan yn brysur yn y Gorllewin

– baetwyr moch daear, hwyl y Llew Coch, problemau tai haf a’u trigolion

– heb sôn am Llion, rebel ifanc hanner ei hoed, sy’n llenwi’r bwlch

a adawyd gan ei gŵr anffyddlon...

 

Ond a oes dirgelwch a thywyllwch yn taflu cysgodion

dros ei chymar newydd?

 

Lansiad y gyfrol:

Bydd sesiwn i lansior gyfrol ar uned Llwyfan Llyfrau/Awen Teifi ar Faes Eisteddfod y Garreg Las – pnawn Mawrth am 1.45