Hafan > Newyddion > Cyhoeddiad Newydd America a'r Rhyfel Cartref a Fi
Cyhoeddiad Newydd America a'r Rhyfel Cartref a Fi
AMERICA a’r RHYFEL CARTREF a FI
Taith i galon y Cymry yn America
Huw Griffiths
Gwasg Carreg Gwalch, £9.99
Dyddiad Cyhoeddi: 27 Gorffennaf 2026
Ym 1998, treuliodd yr awdur saith mis yn ymweld ag archifau,
llyfrgelloedd a meysydd y gad yn America yn ystod ei ymchwil
i ddoethuriaeth ar ran y Cymry yn y Rhyfel Cartref.
Yn y gyfrol hon, cawn ei hanes yn cyfarfod nifer helaeth
o Gymry o dras Cymreig. Er bod amryw ohonynt wedi’u
cymhathu yn Americanwyr ers sawl cenhedlaeth,
maent er hynny’n falch o arddel eu cysylltiad Cymreig.
Mae hon yn stori bersonol, llawn cameos difyr, yng nghwmni
awdur ffraeth a hunan-ddychanol.
Digwyddiadau a chymeriadau’r Rhyfel Cartref sy’n
penderfynu llwybrau’r misoedd hynny.
Daw'r hanes yn fyw – hanes sy'n dal i siarad gyda ni heddiw.
‘Mewn ystyr ehangach, roedd [Rhyfel Cartref
America] yn frwydr dros y syniadau am
ryddid, cydraddoldeb a rôl y llywodraeth –
cwestiynau sy’n cael eu hadleisio hyd heddiw.
Ac roedd y Cymry dros eu pennau a’u clustiau
yn rhan o’r holl hylabalŵ yma. Fy rôl i oedd
datguddio eu stori.’
Huw Griffiths
Ar ôl dros ugain mlynedd o fod yn athro hanes mewn ysgolion
uwchradd ac yna ychydig o flynyddoedd fel ymgynghorydd,
fe benderfynodd fentro a mynd am swydd uwch ddarlithydd
ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Dechreuodd
ailystyried ei waith academaidd – yn fwyaf arbennig ei
draethawd doethuriaeth ar ran y Cymry yn hanes Rhyfel Cartref
America. Yna, daeth y syniad o gyfuno’r ymchwil academaidd
â’i brofiadau personol yn teithio America i greu llyfr newydd lle
mae’r hanesydd a’r teithiwr yn cyd-fyw ac yn caniatáu
mynegiant i ‘lais boi bach o Gwm-twrch’.