Hafan > Newyddion > Cyhoeddiad Newydd Adar y Nant


Cyhoeddiad Newydd Adar y Nant


Adar y Nant

Cerddi i Ddysgwyr

Gol: Siwan Tomos

Gwasg Carreg Gwalch, £6.99

Cyfres Amdani – Lefel Uwch

Dyddiad Cyhoeddi: 27 Gorffennaf 2026

 

Mae dysgwyr yn ennill mwy na geiriau Cymraeg wrth ddysgur iaith.

Maen nhw hefyd yn defnyddior iaith fel allwedd i agor drysau nad oedden nhwn gwybod amdanyn nhw cyn hynny.

Mae barddoniaeth Gymraeg yn enghraifft wych o hynny.

 

Dyma gasgliad o gerddi ar gyfer dysgwyr gan rai sydd wedi bod eu hunain ar y daith i ddysgur iaith. Mae rhyfeddod at yr iaith ei hun yn amlwg iawn yn y casgliad hwn. Felly hefyd yn y cerddi am wahanol gyfnodau hanesyddol neu wrth drafod ambell bwnc llosg cyfoes.

Mae natur ar amgylchedd yn thema arall syn apelio at y beirdd, yn ogystal â cherddi syn cyflwyno golwg ar sawl cynefin o fewn Cymru.

Meddai Siwan Tomos y golygydd:

Yn ystod fy nghyfnod yn gweithio yn Nant Gwrtheyrn, dw i wedi dod i werthfawrogi bod dysgu iaith yn llawer mwy na deall gramadeg a dysgu geirfa. Mae dysgwyr yn dweud wrthon ni dro ar ôl tro, ei fod yn borth iddyn nhw i fyd y Gymraeg, yn borth i Gymru syn teimlo ychydig yn wahanol nag yr oedd hi cynt.

        Mae dysgu iaith yn ffordd o sylwi ar y byd mewn ffordd ychydig yn wahanol – maen wahoddiad i roi sylw i beth sydd on cwmpas ni, o dan ein traed ar bobl ar pethau fu yma on blaenau ni, mewn ffordd syn teimlon newydd.

        Yn naturiol felly, maer casgliad yma o gerddi yn ymwneud â rhai themâu cyffredin – gydar ymdeimlad o le a pherthyn, hanes a threftadaeth a byd natur ymhlith yr amlycaf.

        Mae siaradwyr newydd yn aml yn disgrifior profiad fel sefyll ar drothwy: ar y tu mewn ac ar y tu allan ar yr un pryd ac mae hynny iw deimlo yn y gyfrol. I mi maer cerddi hyn yn dangos sut gall dysgu Cymraeg ddyfnhau ymdeimlad rhywun o le, dyfnhaur berthynas â natur, ac agor drysau annisgwyl i hunaniaeth.

        Maer lleisiau yn y gyfrol yn gyfoeth o brofiadau a chefndiroedd a chawn ein hatgoffa ar fwy nag un achlysur nad oes rhaid cael ein geni i rywbeth i berthyn, maen rhywbeth y gallwn ni ei feithrin neu ei ddysgu – fel iaith. Nid ymarfer eu Cymraeg y maer beirdd hyn yn ei wneud ond defnyddior Gymraeg i drafod profiadau ac i gyflwyno syniadau am y byd ou cwmpas. Diolch iddynt nhw am rannu eu hawen gyda ni.

Siwan Tomos yw Prif Weithredwr  Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn

Lansiad y gyfrol:

Bydd sesiwn i lansior gyfrol ar uned Nant Gwrtheyrn ar Faes Eisteddfod y Garreg Las