Hafan > Newyddion > Cyflwyno siec a Blodau Gobaith - Caerfyrddin
Cyflwyno siec a Blodau Gobaith - Caerfyrddin
Mrs S Khawaja o uned cancr y fron Peony, Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli yn derbyn siec o £5000 oedd yn cynnwys arian a godwyd mewn te prynhawn i 200 o aelodau a gwesteion yn neuadd Bronwydd ger Caerfyrddin a chyfraniadau eraill oddiwrth y rhanbarth ac unigolion. Yn y llun hefyd oedd Manjin Thomas, Rebecca Bassett, Helen Palferman, Catrin Evans, Amy Jones a Helen Evans sydd yn aelodau o staff yn yr uned gyda Mrs Khawaja. Cyflwynwyd hefyd ffrâm o flodau gobaith a gafwyd eu crosio neu wau gan aelodau o Ferched Y Wawr ar draws Cymru fel arwydd o'u gwerthfawrogiad o waith arbennig y gwasanaeth iechyd drwy gydol y pandemig ac ers hynny. Yn cynrychioli'r rhanbarth oedd Gwyneth Alban, Ann Phillips, Jane Morgan, Margarette Hughes, Eluned Walters, Julia Davies ac Eirlys Davies sef swyddogion , swyddog datblygu a chyfranwyr tuag at y te prynhawn. Diolchodd Mrs Khawaja i bawb a fu ynghlwm yn y weithgaredd mewn unrhyw ffordd.