Hafan > Newyddion > Cyfarfod Hydref Cangen Llanbedr Pont Steffan
Cyfarfod Hydref Cangen Llanbedr Pont Steffan
Trefnwyd noson arbennig i godi arian at Apêl Llywydd Merched y Wawr, Ymchwil Canser Cymru, yn Llanbed ar Hydref 12fed. Daeth Undodiaid y Smotyn Du atom i roi cyflwyniad arbennig o ‘Troi Allan!’ Cafwyd perfformiad gafaelgar ganddynt o hanes y ‘troi allan’ o Gapel Llwynrhydowen. Trefnwyd paned a chacen i bawb wedyn gan y ‘Pwyllgor Pinc’!



