Hafan > Newyddion > Cyfarfod Cangen Bro Pantycelyn Hydref 26
Cyfarfod Cangen Bro Pantycelyn Hydref 26
Cangen Bro Pantycelyn
Yn ein cyfarfod mis Hydref ein gwraig wadd oedd Lois Williams o Langadog. Nyrs yw hi o ran galwedigaeth ond yn ymddiddori hefyd mewn llesiant a maeth ac mae hi yn hyfforddwraig yn y maes. Bu yn sôn llawer am wahanol fwydydd sy’n llesol inni. Roedd ganddi declyn i fesur ein hoedran biolegol ac os oeddem yn cario gormod o fraster. Cafodd llawer ohonom ein plesio o ran ein hoedran ond ddim cystal pan ddaeth i faint y braster oeddem yn cario. Diolch Lois am brynhawn hyfryd a ddiddorol iawn.