Hafan > Newyddion > Cyfarfod 1af y Flwyddyn 26-27 Cangen Gorseinon
Cyfarfod 1af y Flwyddyn 26-27 Cangen Gorseinon
MERCHED Y WAWR GORSEINON
Daeth nifer dda ynghyd i gyfarfod cyntaf Tymor 2026-27 cangen Merched y Wawr Gorseinon. Rydym yn cwrdd yn yr Institiwt, Gorseinon ar nos Llun olaf y mis (gan amlaf) am 7 o’r gloch. Mae dalgylch y gangen yn eang ac yn cynnwys pentrefi Casllwchwr, Gorseinon, Pontlliw, Penlle’r gaer, Penyrheol a Thregŵyr ac mae croeso cynnes i aelodau newydd. Mae’r rhaglen yn amrywiol iawn – daeth Rhinedd Williams, Arolygydd Gwisgoedd Gorsedd Cymru atom i agor y tymor ym mis Medi a chafwyd cyflwyniad cartrefol addysgiadol ardderchog trwy Bwynt-pwer a chyfle i weld a modelu’r gwisgoedd hardd. Yn ein cyfarfod nesaf byddwn yn croesawu Dysgwr y Flwyddyn 2026 – Jonathan Davies sy’n wreiddiol o Gasllwchwr ac felly’n lleol iawn i ni. Braf nodi bod gennym nifer dda o ddysgwyr ardderchog yn aelodau a bydd y noson hon ar nos Lun 26ain Hydref yn agored i ddysgwyr eraill a hoffai ymuno (gan gynnwys dynion!). Daw cyfle ym mis Tachwedd i ymarfer ein sgiliau chware Bingo a bwyta Sglodion ac ar yr un pryd byddwn yn cyfrannu at ymgyrch y Llywydd Cenedlaethol, Bethan Picton Davies, sef Ymchwil Cancr Cymru, ‘Positifrwydd Pinc’.