Hafan > Newyddion > Cwrs Dysgwyr Ionawr 2025
Cwrs Dysgwyr Ionawr 2025
Dyma luniau o gwrs undydd yng Ngholeg Meirion Dwyfor Ionawr 25ain
Roedd yna 90 o Ddysgwyr wedi cofrestru, gyda 7 o diwtoriaid yn bresennol. Daeth 22 o aelodau o ganghennau Dwyfor o Ferched y Wawr i weini paneidiau a chynnal sesiynnau sgwrsio. Diolch i bawb am roi eu hamser i gefnogi'r Dysgwyr a Siaradwyr newydd - diwrnod i godi calon. Mae llawer o'n haelodau hefyd yn perthyn i'r Cynllun Siarad cenedlaethol ac yn mynychu sesiynnau paned a sgwrs mewn nifer o leoliadau yn Nwyfor.