Hafan > Newyddion > Cwrs Crefft Colwyn Hydref 2024
Cwrs Crefft Colwyn Hydref 2024
Cwrs Undydd Dawn Wilks.
Trefnwyd Cwrs Crefft yn Festri Cefn Meiriadog, Dydd Sadwrn Hydref 5ed.
Daeth 13 ynghyd i greu Diorama Nadoligaidd dan arweiniad medrus Dawn Wilks o Lansannan. Creu darlun 3D mewn bocs yw’r grefft yma a gyda un o gystadlaethau'r Ffair aeaf yn ysbrydoliaeth i’r sesiwn cafwyd amrywiaeth helaeth o olygfeydd erbyn diwedd y pnawn a phob un yn cynnwys ‘Robin Goch.’ Mwynhawyd y diwrnod yn fawr.