Hafan > Newyddion > Cwis Hwyl draw yn Rhanbarth Caerfyrddin


Cwis Hwyl draw yn Rhanbarth Caerfyrddin


CWIS HWYL CENEDLAETHOL – RHANBARTH CAERFYRDDIN

Diolch i’r 15 tîm fuodd yn cymryd rhan yn Neuadd Y Tymbl nos Wener a diolch i Miriam a Clare am eu help i drefnu’r neuadd. Roedd yn braf medru dod at ein gilydd unwaith eto. Diolch i Helen ein Llywydd, Y Cwis Feistres, am gadw trefn ar y noson ac i Alaw a Doreen am wirio’r papurau.

Llongyfarchiadau i Fro Cennech 1 am ddod yn gyntaf ac i Fro Elfed a San Clêr am ddod yn gydradd ail. Dyma luniau o’r aelodau wedi mwynhau paned, cacen a chlonc ar ddiwedd y noson.