Hafan > Newyddion > Cwis Hwyl Cenedlaethol 2025 Rhanbarth Caerfyrddin


Cwis Hwyl Cenedlaethol 2025 Rhanbarth Caerfyrddin


CWIS HWYL GENEDLAETHOL – RHANBARTH CAERFYRDDIN Diolch i’r 15 tîm a gymerodd rhan yn y cwis yn Festri’r Tabernacl Pencader nos Wener a diolch yn fawr i Swyddogion Y Capel am ganiatáu i ni ddefnyddio’r festri ar fyr rybudd. Diolch arbennig i Gwyneth y Cwis Feistres, am gadw trefn ar y noson ac i Ann, Caryl a Gill am wirio’r atebion. Diolch hefyd i Eirlys am ofalu am yr arian. Hyfryd oedd gweld pawb wedi cael cyfle i gymdeithasu ar y dechrau dros baned a chacen a diolch i Enid, Caroline a Gill am eu help yn y gegin. Dyma lun o Gwyneth ein Llywydd yn cyflwyno ‘Tlws Sera’ a siec o £20.00 i’r tîm buddugol – Pat, Iona a Beti-Wyn o Gangen San Clêr. Yn ail oedd Rhian, Marian a Lilwen o Gangen San Clêr ac yn drydydd – Janet, Mair, Beryl ac Eirwen o Gangen Llanddarog. Llongyfarchiadau i chi gyd.