Hafan > Newyddion > Cwis Hwyl 2026 Rhanbarth Caerfyrddin


Cwis Hwyl 2026 Rhanbarth Caerfyrddin


Diolch i’r 17 o dimoedd a gymerodd rhan yn y Cwis Hwyl yn Neuadd Llanddarog nos Wener. Diolch arbennig i Gwyneth y Cwis Feistres am gadw trefn ar y noson ac i Ann a Jayne am wirio’r atebion. Diolch hefyd i Eirlys gyda chymorth Gaynor am ofalu am yr arian. Hyfryd oedd gweld pawb wedi cael cyfle i gymdeithasu ar y dechrau dros baned a chacen a diolch i ferched Cangen Llanddarog am eu help yn y gegin a gosod y Neuadd yn barod. Yn fuddugol ac yn derbyn Tlws Sera a £20.00 oedd Cangen Peniel ‘A’ - Rhian, Elaine, Maria a Non. Yn ail oedd Cangen Peniel ‘C’- Gill, Mary, Catrin a Gill, ac yn drydydd – Pat, Iona a Beti-Wyn o Gangen San Clêr. Llongyfarchiadau i chi gyd. Dyma rhai lluniau o’r noson.

Bu cyffro mawr ar ddiwedd y noson pan ddaeth galwad i gyhoeddi bod Cangen Peniel ‘A’ wedi ennill yn genedlaethol. Diolch i Maria am ymuno a Bethan ein Llywydd Cenedlaethol ar raglen Shelley a Rhydian a’r BBC Radio Cymru Prynhawn ddydd Sadwrn.