Hafan > Newyddion > Cwis 2024 Rhanbarth Caerfyrddin
Cwis 2024 Rhanbarth Caerfyrddin
CWIS HWYL CENEDLAETHOL – RHANBARTH CAERFYRDDIN
Diolch i’r 15 tîm a gymerodd ran yn y cwis yn Neuadd y Tymbl nos Wener. Diolch arbennig i Gwyneth, y Cwis Feistres, am gadw trefn ar y noson ac i Ann a Caryl am wirio’r atebion. Diolch hefyd i Eirlys am ofalu am yr arian. Hyfryd oedd gweld pawb wedi cael cyfle i gymdeithasu dros paned a chacen oedd wedi ei baratoi gan Claire gofalwr y Neuadd.
Dyma lun o Gwyneth ein Llywydd yn cyflwyno ‘Tlws Sera’ a siec o £20.00 i’r tîm buddugol – Iona, Beti-Wyn a Heulwen o Gangen San Clêr. Yn ail oedd Cangen Peniel – Rhian, Elaine, Non a Helen ac yn drydydd – Mary, Catrin ac Elaine eto o Gangen Peniel.
Llongyfarchiadau i chi gyd.