Hafan > Newyddion > Clwb Gwawr y Gwendraeth yn creu torchau nadolig
Clwb Gwawr y Gwendraeth yn creu torchau nadolig
Cafodd aelodau Clwb Gwawr y Gwendraeth noson hwylus a chreadigol iawn ar y 28ain o Dachwedd ,yn creu torchau Nadolig o dan arweiniaeth brofiadol,( ac amyneddgar 🤦♀️😂) Elin Cullen. Roedd hi wedi paratoi'n drylwyr am y noswaith gan ddod âg amryw helaith o blanhigion gwyrdd ac addurniadau naturiol , nadoligaidd i'w creu. Roedd hyder y merched yn tyfu wrth i'r noson fynd yn ei flaen ac erbyn amser adre roedd pob un yn gadael yn falch iawn ac yn wên o glust i glust, wrth gario eu torchau arbennig personol nhw. Diolch o galon am y profiad Elin.