Hafan > Newyddion > Clwb Gwawr Merched Meirion Mehefin 2024
Clwb Gwawr Merched Meirion Mehefin 2024
Bu i Clwb Gwawr Merched Meirion gael ei atgyfodi yn 2017/2018 gyda 13 aelod.
Rydym wedi bod yn byrsur yn ceisio creu rhaglen ddifyr gyda digwyddiadau sydd at ddant pawb, o helfa drysor, blasu gwin, ymweliad a Portmeirion, trip siopa dolig ac wrth gwrs ambell Cinio Dolig.
Mae'n amlwg fod ein rhaglen wedi temptio ambell un gan i'r nifer gynyddu i 31 aelod erbyn 23/24 (14 o rhain yn aelodau newydd) yn amrywio mewn oedran o 20 i 60 oed. Pawb yn cael hwyl yn cymysgu ymysg ffrinidiau. Rydym yn gorffen ein blwyddyn eleni gyda'r trip haf, y tro yma ar RibRide ar y Fenai a gwledd i ddilyn yn Dylan's Porthaethwy.