Hafan > Newyddion > Clwb Gwawr Llanymddyfri yn cael noson chwaraeon!


Clwb Gwawr Llanymddyfri yn cael noson chwaraeon!


Cyfarfu Clwb Gwawr Llanymddyfri yn Neuadd Myddfai yn ddiweddar a chael llawer o hwyl yn chwarae gemau gwahanol o gemau bwrdd, dominos, chwist, dartiau a thenis bwrdd. Diolch i Eirlys a’i merch Sian am drefnu ac hefyd am y paned a chacennau hyfryd ar y diwedd.